|
Pwy Da Ni
Sefydlwyd y cwmni yn 1991 gan Geraint Fon cyn
beirianydd Nwy Prydain a’i wraig Ffiona.
Ymunodd ei frawd Gwyn ar cwmni yn fuan yn y
blynyddoed cynnar ac erbyn hyn mae’r cwmni wedi datblygu ac yn
cyflogi cyfanswm o bump. Sef tri periannydd, prentis ac
Alwen ein ysgrifenyddes
Rydym yn gwmni adnabyddus a dibynadwy yn gweithio
rhan amlaf yn ardal gogledd Eryri, yn falch iawn o’n gwreiddiau
a’n cymunedau lleol.
Rydym yn cymeryd parch a phleser
wrth osod y systemau gwresogi diweddaraf o’r safon uchaf, gall
ein cwsmeriad ddibynu arnynt am flynyddoedd lawer ac ‘rydym yn
ei gosod mewn dull taclus di ffwdan.
Be da ni’n wneud
Wrth symud ymlaen gyda datblygiad technoleg yr
ydym eisioes yn gosod systemau aml danwydd o bob math a chynllun.
Er enghraifft –
-
Boeleri olew (condensing) sy’n ail gylchu’r
gwres gwastraf o’r simdda neu ‘flue’ .
-
Boeleri nwy naturiol neu nwy o’r botel LPG
hefyd drost 90% effeithiolrwydd.
-
Systemau ‘ground source’ sydd defnyddio gwres
naturiol o’r ddaear
-
Systemau Solar – all gynhesu i fyny ar 70% o
gyflenwad dwr poeth blynyddol.
-
Systemau – gwres o dan llawr y ty – mae’r
rhain wedi bod yn boblogaidd iawn ac yr ydym wedi datblygu
ein dull o osod a’r math o ddefnyddiau iw gwneud yn syml,
dibynnol ac effeithiol yw gosod ac i’w defnyddio.
Mae yna flynyddoedd o warant ar ein gwaith a’n
defnyddiau i gyd, ar y
systemau newydd ac ar y rhai sydd wedi ei adnewyddu.
Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth
prishio am ddim, heb bwysau i brynnu.
|